Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i'w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius.

2. Ac o bydd y mab drygionus i'w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.

3. Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a'i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.

4. Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu.

5. Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ati, a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.

6. A bydded i'r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel.

7. Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i'r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i'w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi.

8. Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi fodlon i'w chymryd hi;

9. Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded, Felly y gwneir i'r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd.

10. A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid.

11. Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr â'i frawd, a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef;

12. Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.

13. Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys, mawr a bychan.

14. Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.

15. Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

16. Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn, sef pawb a'r a wnêl anghyfiawnder.

17. Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o'r Aifft:

18. Yr hwn a'th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o'th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe Dduw.

19. Am hynny bydded, pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i'w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.