Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan y'th ddygo yr Arglwydd dy Dduw i mewn i'r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i'w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o'th flaen di, yr Hethiaid, a'r Girgasiaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi;

2. A rhoddi o'r Arglwydd dy Dduw hwynt o'th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt.

3. Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i'w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i'th fab dithau.

4. Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr Arglwydd i'ch erbyn chwi, ac a'th ddifetha di yn ebrwydd

5. Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.

6. Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i'r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

7. Nid am eich bod yn lluosocach na'r holl bobloedd, yr hoffodd yr Arglwydd chwi, ac y'ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o'r holl bobloedd

8. Ond oherwydd caru o'r Arglwydd chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a'ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft.

9. Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau;

10. Ac yn talu'r pwyth i'w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i'w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.

11. Cadw gan hynny y gorchmynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, i'w gwneuthur.

12. A bydd, o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn, a'u cadw, a'u gwneuthur hwynt; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfamod, a'r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i'th dadau di:

13. Ac a'th gâr, ac a'th fendithia, ac a'th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a'th win, a'th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.

14. Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon, nac ymhlith dy anifeiliaid di.

15. Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.

16. Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny.

17. Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?

18. Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo, ac i'r holl Aifft:

19. Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a'r arwyddion, a'r rhyfeddodau, a'r llaw gadarn, a'r braich estynedig, â'r rhai y'th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna'r Arglwydd dy Dduw i'r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.

20. A'r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a'r rhai a ymguddiant rhagot ti.

21. Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.

22. A'r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o'th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.

23. Ond yr Arglwydd dy Dduw a'u rhydd hwynt o'th flaen di, ac a'u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;

24. Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt.

25. Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na'r arian na'r aur a fyddo arnynt, i'w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd‐dra i'r Arglwydd dy Dduw ydyw.

26. Na ddwg dithau ffieidd‐dra i'th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.