Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan gymero gŵr wraig, a'i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o'i dŷ.

2. Pan elo hi allan o'i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall:

3. Os ei gŵr diwethaf a'i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a'i rhydd yn ei llaw hi, ac a'i gollwng hi o'i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a'i cymerodd hi yn wraig iddo:

4. Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a'i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i'r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.

5. Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.

6. Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.

7. Pan gaffer gŵr yn lladrata un o'i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o'th fysg.

8. Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy.

9. Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o'r Aifft.

10. Pan fenthycieth i'th gymydog fenthyg dim, na ddos i'w dŷ ef i gymryd ei wystl ef.

11. Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti.

12. Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â'i wystl gyda thi.

13. Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y'th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.

14. Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o'th frodyr, neu o'th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di:

15. Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot.

16. Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.

17. Na ŵyra farn y dieithr na'r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw.

18. Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

19. Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymryd: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo.

20. Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.

21. Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.

22. Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.