Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;

2. Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.

3. Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned drosodd o'th flaen di; efe a ddinistria'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a thi a'u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o'th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.

4. A'r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i'w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.

5. A rhydd yr Arglwydd hwynt o'ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi.

6. Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd.

7. A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda'r bobl yma i'r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a'i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

8. A'r Arglwydd hefyd sydd yn myned o'th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.

9. A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a'i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfamod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel.

10. A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll,

11. Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.

12. Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a'r plant, a'r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;

13. Ac y byddo i'w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr Arglwydd eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i'w feddiannu.

14. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod.

15. A'r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a'r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell.

16. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda'th dadau; a'r bobl yma a gyfyd, ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a'm gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef.

17. A'm dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a'u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a'r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?

18. Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr.

19. Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel.

20. Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i'w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a'u gwasanaetha hwynt, ac a'm dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod.

21. Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i'r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i'r tir a addewais trwy lw.

22. A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a'i dysgodd hi i feibion Israel.

23. Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i'r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.

24. A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;

25. Yna y gorchmynnodd Moses i'r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, gan ddywedyd,

26. Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i'th erbyn.

27. Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a'th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw,gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?

28. Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a'ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymerwyf y nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.

29. Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o'r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo.

30. A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu diwedd hwynt.