1. Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r ARGLWYDD,a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub!
2. Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch;gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo!
3. Achos yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr;y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‛duwiau‛ i gyd.
4. Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo,a chopaon y mynyddoedd hefyd!
5. Fe sydd piau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu;a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio.
6. Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo;mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD ein Crëwr.
7. Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e;y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw!
8. “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba,neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch.
9. Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod,a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i!
10. Am bedwar deg mlynedd ron i'n eu ffieiddio nhw:‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i;‘dyn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
11. Felly digiais, a dweud ar lw,‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’”