1. Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni– gall Israel ddweud yn glir –
2. Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr nipan oedd dynion yn ymosod arnon ni,
3. bydden nhw wedi'n llyncu ni'n fyw.Roedden nhw mor ffyrnig yn ein herbyn!
4. Bydden ni wedi'n llethu'n llwyr gan y dyfroeddac wedi boddi yn y llifogydd!
5. Byddai rhuthr y dŵr wedi'n llethu.
6. Bendith ar yr ARGLWYDD!Wnaeth e ddim gadaeli'w dannedd ein rhwygo ni.
7. Dŷn ni fel aderyn wedi dianc o drap yr heliwr;torrodd y trap a dyma ni'n llwyddo i ddianc.
8. Yr ARGLWYDD wnaeth ein helpu –Crëwr y nefoedd a'r ddaear.