1. Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ARGLWYDD,a dw i'n galw arnat ti!
2. O ARGLWYDD, gwrando ar fy nghri!Gwranda arna i'n galw arnat ti!Dw i'n erfyn yn daer am drugaredd!
3. O ARGLWYDD, os wyt ti'n cadw golwg ar bechodau,pa obaith sydd i unrhyw un?
4. Ond rwyt ti'n barod i faddau,ac felly mae pobl yn dy addoli di.
5. Dw i'n troi at yr ARGLWYDD;dw i'n troi ato ac yn disgwyl yn llawn gobaith.Dw i'n trystio beth mae e'n ddweud.
6. Dw i'n dyheu i'r Meistr ddodfwy na'r gwylwyr yn disgwyl am y bore,ie, y gwylwyr am y bore.
7. O Israel, trystia'r ARGLWYDD!Mae cariad yr ARGLWYDD mor ffyddlon,ac mae e mor barod i'n gollwng ni'n rhydd!
8. Fe ydy'r un fydd yn rhyddhau Israelo ganlyniadau ei holl ddrygioni!