1. Haleliwia!Molwch Dduw yn ei deml!Molwch e yn ei nefoedd gadarn!
2. Molwch e am wneud pethau mor fawr!Molwch e am ei fod mor wych!
3. Molwch e drwy chwythu'r corn hwrdd!Molwch e gyda'r nabl a'r delyn!
4. Molwch e gyda drwm a dawns!Molwch e gyda llinynnau a ffliwt!
5. Molwch e gyda sŵn symbalau!Molwch e gyda symbalau'n atseinio!
6. Boed i bopeth sy'n anadlu foli'r ARGLWYDD!Haleliwia!