1. Mae Duw'n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol;ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‛duwiau‛.
2. “Am faint ydych chi'n mynd i farnu'n anghyfiawna dangos ffafr at y rhai sy'n gwneud drwg?” Saib
3. “Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad!Sefyll dros hawliau y rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu!
4. Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saffa'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”
5. Ond dŷn nhw'n deall dim.Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch,tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd!
6. Dywedais, “Duwiau ydych chi”,“meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch.
7. Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol;byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.”
8. Cod, O Dduw, i farnu'r byd!Dy etifeddiaeth di ydy'r cenhedloedd i gyd.