Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 6 beibl.net 2015 (BNET)

Addewid Duw

1. “Dyma'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i mi i'w dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chi'n mynd.

2. Byddwch chi'n dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadw ei reolau a'i orchmynion – chi, eich plant, a'ch wyrion a'ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a cewch fyw yn hir.

3. Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chi'n tyfu'n aruthrol, ac fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo.

Egwyddor sylfaenol yr ymrwymiad

4. “Gwranda Israel! Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig ARGLWYDD.

5. Rwyt i garu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a dy holl nerth.

6. “Paid anghofio'r pethau dw i'n eu gorchymyn i ti heddiw.

7. Rwyt i'w dysgu'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore.

8. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.

9. Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.

Annogaeth i addoli'r ARGLWYDD yn unig

10. “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu;

11. tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'i casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu. Digon i'w fwyta!

12. Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.

13. Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw.

14. Peidiwch addoli duwiau'r bobl o'ch cwmpas chi.

15. Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd e'n digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan o'r wlad.

Annogaeth i fod yn ufudd i'r ARGLWYDD

16. “Paid rhoi'r ARGLWYDD dy Dduw ar brawf, fel y gwnest ti yn Massa.

17. Gwnewch yn union beth mae'n ei orchymyn i chi, cadw ei ofynion a dilyn ei ganllawiau.

18-19. Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'ch gelynion chi allan a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.

20. Yna pan fydd eich plant yn gofyn i chi, ‘Pam wnaeth Duw roi'r gofynion a'r rheolau a'r canllawiau yma i ni?’

21. atebwch, ‘Roedden ni'n gaethweision y Pharo yn yr Aifft, ond dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft.

22. Gwelon ni e'n gwneud pethau ofnadwy i wlad yr Aifft ac i'r Pharo a'i deulu – gwyrthiau rhyfeddol.

23. Gollyngodd ni'n rhydd er mwyn rhoi i ni'r wlad roedd e wedi ei haddo i'n hynafiaid.

24. Dwedodd wrthon ni am gadw'r rheolau yma i gyd, a'i barchu e, er mwyn i bethau fynd yn dda i ni, ac iddo'n cadw ni'n fyw fel mae wedi gwneud hyd heddiw.

25. Bydd pethau'n iawn gyda ni os gwnawn ni gadw'r gorchmynion yma fel mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni wneud.’