Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 34 beibl.net 2015 (BNET)

Moses yn marw

1. Yna dyma Moses yn mynd o anialwch Moab i ben Mynydd Nebo, ac i gopa Pisga, sydd gyferbyn â Jericho. Dyma'r ARGLWYDD yn dangos y wlad gyfan iddo – o Gilead i Dan,

2. tir Nafftali i gyd, Effraim a Manasse, tir Jwda i gyd yr holl ffordd draw i'r môr,

3. y Negef a'r gwastatir o ddyffryn Jericho (tref y coed palmwydd) yr holl ffordd i Soar.

4. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dyma'r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddywedais, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.”

5. Felly dyma Moses, gwas yr ARGLWYDD, yn marw yno yn Moab, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

6. Cafodd ei gladdu yng ngwlad Moab wrth ymyl Beth-peor, ond does neb yn gwybod yn union yn ble hyd heddiw.

7. Roedd Moses yn gant dau ddeg oed pan fuodd farw, ond roedd yn dal i weld yn glir, ac mor gryf ac erioed.

8. Buodd pobl Israel yn galaru ar ôl Moses am fis cyfan, ar wastatir Moab. Yna daeth y cyfnod o alar i ben.

9. Cyn i Moses farw roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Teyrnged i Moses

10. Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel – roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb.

11. Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'r Aifft i'w wneud. Gwnaeth wyrthiau rhyfeddol yn erbyn y Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad.

12. Roedd Moses wedi dangos nerth mawr a gwneud pethau rhyfeddol o flaen pobl Israel i gyd.