Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 7 beibl.net 2015 (BNET)

Pobl Dduw

1. “Bydd yr ARGLWYDD yn eich helpu chi i gymryd y tir oddi ar saith grŵp o bobl sy'n gryfach na chi – yr Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid. Bydd e'n eu gyrru nhw i gyd allan o'ch blaen chi.

2. Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ac mae'n rhaid i chi eu dinistrio nhw'n llwyr. Peidiwch gwneud cytundeb heddwch gyda nhw, a peidiwch dangos unrhyw drugaredd.

3. Peidiwch gadael i'ch plant eu priodi nhw,

4. rhag i'ch plant droi cefn ar yr ARGLWYDD, ac addoli duwiau eraill. Wedyn byddai'r ARGLWYDD yn gwylltio gyda chi, ac yn eich dinistrio chi'n llwyr!

5. Na, rhaid i chi chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, torri polion y dduwies Ashera i lawr, a llosgi eu delwau nhw.

6. Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.

7. Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na'r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth!

8. Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi'ch caru chi, ac am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio'i rym i'ch gollwng chi'n rhydd o fod yn gaethweision i'r Pharo, brenin yr Aifft.

9. Felly peidiwch anghofio mai'r ARGLWYDD eich Duw chi ydy'r unig dduw go iawn. Mae e'n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw'r ymrwymiad mae wedi ei wneud i'r rhai sy'n ei garu ac yn gwneud beth mae e'n ddweud.

10. Ond mae'n talu'n ôl i'r bobl hynny sy'n ei gasáu, drwy roi iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu.

11. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.

Y fendith i'r rhai sy'n ufudd

12. “Os gwnewch chi wrando ar y canllawiau yma, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r ymrwymiad hael wnaeth gyda chi, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid.

13. Bydd e'n eich caru a'ch bendithio chi, ac yn rhoi lot o blant i chi. Bydd eich cnydau'n llwyddo, yr ŷd, y sudd grawnwin a'r olewydd; bydd eich gwartheg yn cael lloi, a'ch preiddiau yn cael lot o rai bach.

14. Byddwch yn cael eich bendithio fwy nag unrhyw wlad arall – bydd eich teuluoedd yn tyfu, a bydd nifer eich anifeiliaid yn cynyddu.

15. Bydd yr ARGLWYDD yn eich amddiffyn rhag salwch, a fyddwch chi ddim yn dioddef o'r heintiau wnaeth daro'r Aifft. Eich gelynion fydd yn dioddef o'r pethau yna.

16. “Rhaid i chi ddinistrio'r bobl fydd yr ARGLWYDD yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw, a peidiwch addoli eu duwiau, neu bydd hi ar ben arnoch chi.

17. Falle dy fod yn gofyn, ‘Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo i gymryd tir y bobloedd yma? – mae mwy ohonyn nhw nag sydd ohonon ni!’

18. Peidiwch poeni! Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r Pharo ac i wlad yr Aifft.

19. Defnyddiodd ei rym a'i nerth, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol i ddod â chi allan o'r Aifft. A bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud yr un fath eto i'r bobl yma dych chi'n eu hofni.

20. Bydd e'n achosi panig llwyr yn eu plith nhw. Bydd rhai yn ceisio cuddio oddi wrthoch chi, ond byddan nhw i gyd yn cael eu lladd yn y diwedd.

21. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw gyda chi, ac mae e'n Dduw mawr a rhyfeddol.

22. Bydd e, y Duw sy'n eich arwain chi, yn eu gyrru nhw i ffwrdd o dipyn i beth. Fydd e ddim yn gadael i chi gael gwared â nhw i gyd ar unwaith, neu fyddai dim digon o bobl yna i gadw niferoedd yr anifeiliaid gwylltion i lawr.

23. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Bydd e'n achosi iddyn nhw banicio, nes byddan nhw i gyd wedi eu lladd.

24. Byddwch chi'n dal eu brenhinoedd nhw, ac yn eu lladd. Fydd neb yn cofio eu bod nhw wedi byw erioed!

25. Llosgwch y delwau o'u duwiau nhw. Peidiwch hyd yn oed cadw'r aur sy'n eu gorchuddio nhw, rhag i chi gael eich trapio ganddo. Mae'r pethau yma yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD eich Duw.

26. Peidiwch mynd â dim byd felly i'ch tai, neu byddwch chi dan felltith fel y peth ffiaidd ei hun! Rhaid i chi ei ffieiddio a'i wrthod fel rhywbeth mae'r ARGLWYDD eisiau ei ddinistrio.