Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 17 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

Sut i farnu rhywun sy'n addoli duwiau eraill

2. “Os ydych chi'n clywed fod dyn neu ddynes yn un o'ch trefi, yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw drwy dorri amodau'r ymrwymiad

3. – gwneud pethau dw i wedi dweud wrthoch chi am beidio eu gwneud, fel addoli duwiau eraill, neu addoli'r haul, y lleuad neu'r sêr –

4. rhaid i chi ymchwilio'n fanwl i'r mater. Wedyn, os ydy e'n troi allan i fod yn wir fod peth erchyll fel yna yn bendant wedi digwydd yn Israel,

5. rhaid i'r person sydd wedi gwneud y drwg gael ei ddedfrydu gan y llys wrth giatiau'r dref. Yna bydd yn cael ei ladd drwy daflu cerrig ato.

6. Ond rhaid cael dau neu dri o bobl i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Dydy gair un tyst ddim yn ddigon i'w brofi'n euog.

7. A'r tystion sydd i ddechrau'r dienyddiad, a pawb arall yn eu dilyn. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.

Achosion anodd

8. “Os ydy rhyw achos yn y dref yn rhy anodd i'w farnu – achos o ladd, unrhyw achos cyfreithiol neu ymosodiad – yna ewch â'r achos i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis.

9. Ewch i weld yr offeiriaid o lwyth Lefi a'r un sy'n farnwr bryd hynny a byddan nhw'n penderfynu beth ydy'r ddedfryd.

10-12. A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw'n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw'n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.

13. Wedyn bydd pobl yn clywed beth ddigwyddodd ac yn dychryn, a fydd neb yn meiddio gwrthryfela felly eto.

Brenin yn cael ei ddewis gan Dduw

14. “Ar ôl i chi goncro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi, a setlo i lawr i fyw yno, byddwch yn penderfynu eich bod eisiau brenin yr un fath â'r gwledydd o'ch cwmpas chi.

15. Dim ond yr un mae'r ARGLWYDD yn ei ddewis sydd i fod yn frenin. A rhaid iddo fod yn un o bobl Israel – peidiwch dewis rhywun o'r tu allan, sydd ddim yn Israeliad.

16. Rhaid iddo beidio casglu lot o geffylau rhyfel iddo'i hun, a gadael i bobl fynd i'r Aifft i nôl rhai. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio mynd yn ôl yno.

17. Rhaid iddo beidio cymryd lot o wragedd iddo'i hun, rhag iddyn nhw ei demtio i droi cefn arna i. A rhaid iddo beidio hel cyfoeth iddo'i hun – arian ac aur.

18. “Yna pan fydd e'n cael ei orseddu bydd yn derbyn sgrôl, copi o'r Gyfraith, gan yr offeiriaid o lwyth Lefi.

19. Mae'n bwysig ei fod yn cadw'r sgrôl wrth law bob amser, ac yn ei darllen yn rheolaidd ar hyd ei fywyd. Wedyn bydd yn parchu'r ARGLWYDD ei Dduw, ac yn gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, a dilyn ei chanllawiau.

20. Wrth wneud hynny fydd e ddim yn ystyried ei hun yn well na'i gyd-Israeliaid, nac yn crwydro oddi wrth y cyfarwyddiadau dw i wedi eu rhoi. A bydd e a'i ddisgynyddion yn cael teyrnasu am hir dros wlad Israel.