Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 18 beibl.net 2015 (BNET)

Yr offeiriaid, a'i cyfran nhw

1. “Fydd gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, yn wir unrhyw un sy'n perthyn i'r llwyth, ddim tir fel pawb arall. Byddan nhw'n cael bwyta'r offrymau sy'n cael eu llosgi i'r ARGLWYDD – dyna eu siâr nhw.

2. Fydd ganddyn nhw ddim tir fel gweddill pobl Israel. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel gwnaeth e addo iddyn nhw.

3. “Pan fydd pobl yn dod i aberthu anifail (o'r gwartheg neu'r defaid a geifr) mae'r ysgwydd, y bochau a'r stumog i gael eu rhoi i'r offeiriaid.

4. Maen nhw hefyd i gael y rhan orau o'ch ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd, a hefyd o'r gwlân pan fyddwch yn cneifio eich defaid a'ch geifr.

5. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dewis llwyth Lefi i'w wasanaethu a'i gynrychioli am byth.

6-7. Os ydy e wir eisiau, mae unrhyw un o lwyth Lefi yn gallu gadael y pentref lle mae'n byw a gwirfoddoli i wasanaethu yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun (gyda'r dynion eraill o lwyth Lefi sy'n gwasanaethu yno'n barhaol).

8. Mae'r dyn hwnnw i gael yr un siâr a'r lleill, er ei fod hefyd wedi gwerthu eiddo ei deulu.

Proffwyd go iawn, nid arferion paganaidd

9. “Pan fyddwch wedi cyrraedd y tir mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi, peidiwch gwneud y pethau ffiaidd mae'r bobl sy'n byw yno nawr yn eu gwneud.

10. Ddylai neb ohonoch chi aberthu ei fab neu ei ferch drwy dân. Ddylai neb ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio,

11. swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda'r ocwlt neu geisio siarad â'r meirw.

12. Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a dyna pam mae e'n gyrru'r bobl sydd yno allan o'ch blaen chi.

13. Rhaid i chi wneud yn union beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau.

14. Mae'r bobloedd dych chi ar fin cymryd eu tir nhw yn gwrando ar bobl sy'n dweud ffortiwn ac yn dewino. Ond mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrthoch chi am beidio gwneud pethau felly.

15. “Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus arno fe.

16. Pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd wrth droed Mynydd Sinai, dyma chi'n gofyn i'r ARGLWYDD: ‘Paid gwneud i ni wrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, neu orfod edrych ar y tân mawr yma, rhag i ni farw.’

17. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Maen nhw'n iawn.

18. Bydda i'n codi proffwyd arall fel ti o'u plith nhw. Bydda i'n rhoi neges iddo ei chyhoeddi, a bydd e'n dweud beth dw i'n ei orchymyn.

19. Bydd e'n siarad drosta i, a bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar beth mae e'n ddweud yn atebol i mi.’

20. Ond os bydd unrhyw broffwyd yn honni siarad drosta i heb i mi ddweud wrtho am wneud hynny, neu'n siarad ar ran duwiau eraill, rhaid i'r proffwyd hwnnw farw.

21. “‘Ond sut mae gwybod mai nid yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi'r neges?’ meddech chi.

22. Wel, os ydy proffwyd yn honni siarad drosta i, a beth mae e'n ddweud ddim yn dod yn wir, nid fi sydd wedi siarad. Mae'r proffwyd hwnnw wedi siarad o'i ben a'i bastwn ei hun. Peidiwch cymryd sylw ohono.