Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 20 beibl.net 2015 (BNET)

Mynd i ryfel

1. “Pan fyddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, ac yn gweld eu holl geffylau a'u cerbydau, a bod ganddyn nhw lawer mwy o filwyr na chi, peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD Dduw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, gyda chi.

2. Cyn i'r ymladd ddechrau, dylai'r offeiriad siarad â'r milwyr, a dweud,

3. ‘Ddynion Israel, gwrandwch! Dych chi ar fin mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion. Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn. Peidiwch panicio.

4. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi i ymladd yn erbyn eich gelynion, a'ch helpu chi i ennill y frwydr.’

5. “Yna mae'r swyddogion i ddweud wrth y milwyr, ‘Oes rhywun yma wedi adeiladu tŷ ac heb ei gyflwyno i Dduw? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gysegru'r tŷ.

6. Oes rhywun yma wedi plannu gwinllan, ac heb eto gael ffrwyth ohoni? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gael y ffrwyth.

7. Neu oes rhywun yma sydd wedi dyweddïo gyda merch, ond heb eto ei phriodi hi? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall ei phriodi hi.’

8. Maen nhw hyd yn oed i ddweud, ‘Oes rhywun yma sy'n nerfus ac yn ofnus? Gall fynd adre, rhag iddo wneud i'r milwyr eraill golli hyder hefyd.’

9. Ar ôl i'r swyddogion ddweud hyn i gyd, maen nhw i benodi capteiniaid i arwain unedau milwrol.

10. “Pan fydd y fyddin yn dod yn agos at dref maen nhw'n bwriadu ymosod arni, maen nhw i gynnig telerau heddwch iddi gyntaf.

11. Os byddan nhw'n cytuno i'r telerau ac yn ildio i chi, bydd y bobl i gyd yn gweithio fel caethweision i chi.

12. Os ydyn nhw'n gwrthod derbyn eich telerau chi, dych chi i warchae ar y dref.

13. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w choncro. Rhaid i chi ladd y dynion i gyd.

14. Ond gallwch gadw'r merched, y plant, yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall gwerthfawr sydd yn y dref. Cewch gadw'r holl stwff mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi.

15. “Dyna sut ydych chi i ddelio gyda gyda'r trefi sy'n bell o'ch tir chi'ch hunain (y rhai sydd ddim yn perthyn i'r bobloedd yn Canaan).

16. Ond gyda'r trefi sy'n perthyn i'r bobloedd mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi eu tir nhw i chi, does yr un person nac anifail i gael ei adael yn fyw.

17. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi. Rhaid i chi eu lladd nhw i gyd! – yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid –

18. rhag iddyn nhw eich arwain chi i fynd trwy'r defodau ffiaidd maen nhw'n eu dilyn wrth addoli eu duwiau eu hunain, a gwneud i chi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw.

19. “Os byddwch chi'n gwarchae am amser hir ar dref dych chi'n ymosod arni, rhaid i chi beidio torri ei choed ffrwythau i lawr. Gallwch fwyta'r ffrwyth oddi arnyn nhw, ond peidiwch torri nhw i lawr. Dydy'r coed ffrwythau ddim yn elynion chi!

20. Ond cewch dorri i lawr unrhyw goed sydd ddim yn goed ffrwythau, a defnyddio'r pren i adeiladu offer gwarchae yn erbyn y dref sy'n rhyfela yn eich erbyn chi, nes bydd y dref honno wedi cael ei choncro.