Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 4 beibl.net 2015 (BNET)

Moses yn annog y bobl i fod yn ufudd i Dduw

1. “Bobl Israel, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n ei gosod i chi, er mwyn i chi gael byw a mynd i mewn i gymryd y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi i chi.

2. Peidiwch ychwanegu dim, na chymryd dim i ffwrdd. Gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw ydyn nhw, felly cadwch nhw!

3. Gwelsoch beth wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor. Lladdodd yr ARGLWYDD bawb wnaeth addoli duw Baal-peor.

4. Ond mae pawb ohonoch chi wnaeth aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, yn dal yn fyw.

5. Gwrandwch, dw i'n dysgu i chi'r rheolau a'r canllawiau mae Duw wedi eu rhoi i mi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad dych chi'n mynd iddi i'w chymryd drosodd.

6. Felly, cadwch nhw. Dilynwch nhw. A pan fydd pobl yn dysgu amdanyn nhw, byddan nhw'n dweud, ‘Mae'n wir, mae pobl y wlad yma yn ddoeth a deallus.’

7. “Pa genedl arall sydd â duw sydd mor agos atyn nhw? Mae'r ARGLWYDD ein Duw yna bob tro dŷn ni'n galw arno.

8. A pa wlad arall sydd â rheolau a chanllawiau mor deg â'r casgliad yma o gyfreithiau dw i'n eu rhannu gyda chi heddiw?

9. “Ond dw i'n dweud eto, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus. Peidiwch anghofio beth dych chi wedi ei weld. Peidiwch anghofio nhw tra byddwch chi byw. Dysgwch nhw i'ch plant a'ch wyrion a'ch wyresau.

10. Pan oeddech chi'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD eich Duw wrth droed Mynydd Sinai, dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Casgla'r bobl at ei gilydd, i mi rannu gyda nhw beth dw i eisiau ei ddweud. Wedyn byddan nhw'n dangos parch ata i, tra byddan nhw'n byw yn y wlad, ac yn dysgu eu plant i wneud yr un fath.’

11. “Dyma chi'n dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgi'n dân. Roedd fflamau yn codi i fyny i'r awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus.

12. Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chi'n clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim.

13. A dyma fe'n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud – y Deg Gorchymyn. A dyma fe'n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg.

14. Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a canllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chi'n mynd drosodd i'w chymryd.

Gwahardd gwneud delwau

15. Ond byddwch yn ofalus! Wnaethoch chi ddim gweld neb pan oedd yr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân ar Fynydd Sinai.

16. Felly peidiwch sbwylio popeth drwy gerfio rhyw fath o ddelw – o ddyn neu ferch,

17. anifail, aderyn,

18. ymlusgiad, neu bysgodyn.

19. Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd.

20. Ond mae wedi eich dewis chi, a'ch arwain chi allan o ffwrnais haearn gwlad yr Aifft, i fod yn bobl sbesial iddo – a dyna ydych chi!

21. “Ond wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi o'ch achos chi. Dwedodd wrtho i na fyddwn i byth yn cael croesi'r Afon Iorddonen a mynd i mewn i'r wlad dda mae e ar fin ei rhoi i chi.

22. Dyma ble bydda i'n marw. Ond dych chi'n mynd i groesi'r Iorddonen a chymryd y tir da yna.

23. Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath – mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly.

24. Tân sy'n difa ydy Duw! Mae'n Dduw eiddigeddus!

25. Pan fyddwch chi wedi bod yn y wlad am amser hir, ac wedi cael plant ac wyrion ac wyresau, peidiwch gwneud drwg i'ch hunain drwy gerfio delw o ryw fath. A peidiwch gwneud pethau drwg eraill sy'n pryfocio'r ARGLWYDD eich Duw.

26. Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi – os gwnewch chi hynny byddwch chi'n cael eich taflu allan o'r tir yna dych chi ar fin croesi'r Afon Iorddonen i'w gymryd drosodd. Fyddwch chi ddim yn para'n hir yna, achos byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr!

27. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a dim ond criw bach ohonoch chi fydd ar ôl.

28. A byddwch chi'n addoli duwiau wedi eu gwneud gan bobl – delwau o bren a charreg sydd ddim yn gallu gweld, clywed, bwyta nac arogli!

29. “Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif – â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid – byddwch yn dod o hyd iddo.

30. Yng nghanol eich holl drybini, pan fydd y pethau yma'n digwydd rywbryd yn y dyfodol, os gwnewch chi droi yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw a bod yn ufudd iddo,

31. fydd e ddim yn eich siomi chi. Mae e'n Dduw trugarog. Fydd e ddim yn eich dinistrio chi, am ei fod yn gwrthod anghofio'r ymrwymiad hwnnw wnaeth e gyda'ch hynafiaid chi. Gwnaeth e addo ar lw iddyn nhw.

Mae Duw yn unigryw

32. “Edrychwch yn ôl dros hanes, o'r dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwy'r byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd o'r blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth?

33. Oes unrhyw genedl arall wedi clywed llais Duw yn siarad â nhw o ganol y tân, fel gwnaethoch chi, ac wedi byw i adrodd yr hanes?

34. Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddo'i hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ac ymladd drostyn nhw gyda'i nerth rhyfeddol, a'r holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chi'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud drosoch chi yn yr Aifft?

35. Mae wedi dangos i chi mai Un Duw sydd, a does dim un arall yn bod.

36. Gadawodd i chi glywed ei lais o'r nefoedd, i'ch dysgu chi. Ac ar y ddaear dangosodd i chi y tân mawr, a siarad â chi o ganol hwnnw.

37. Ac am ei fod wedi caru'ch hynafiaid chi, dewisodd fendithio eu disgynyddion. Defnyddiodd ei nerth ei hun i ddod â chi allan o'r Aifft,

38. i chi gymryd tir pobloedd cryfach na chi oddi arnyn nhw. Daeth â chi yma heddiw i roi eu tir nhw i chi ei gadw.

39. “Felly dw i eisiau i hyn i gyd gael ei argraffu ar eich meddwl chi – dw i eisiau i chi sylweddoli fod Duw yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear. Does dim un arall yn bod!

40. Rhaid i chi gadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi a'ch plant. A byddwch chi'n cael byw am amser hir iawn yn y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w gadw.”

Trefi Lloches i'r dwyrain o'r Iorddonen

41. Yna dyma Moses yn dewis tair tref i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen yn drefi lloches.

42. Byddai unrhyw un sy'n lladd person arall yn ddamweiniol, heb fwriadu unrhyw ddrwg iddo, yn gallu dianc am loches i un o'r trefi yma.

43. Y tair tref oedd Betser, yn anialwch y byrdd-dir, i lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead i lwyth Gad; a Golan yn Bashan i lwyth Manasse.

Cyflwyniad i Gyfraith Dduw

44. Dyma'r gyfraith wnaeth Moses ei chyflwyno i bobl Israel –

45. y gofynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd e i bobl Israel ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft,

46. pan oedden nhw'n dal ar ochr ddwyreiniol yr Afon Iorddonen. Roedden nhw yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor – sef yr ardal oedd yn arfer cael ei rheoli gan Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon. Nhw wnaeth Moses a pobl Israel ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan o'r Aifft.

47. Dyma nhw'n cymryd ei dir e, a tir Og, brenin Bashan – y ddau ohonyn nhw yn teyrnasu ar yr ardaloedd i'r dwyrain o'r Iorddonen.

48. Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o dref Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.

49. Roedd yn cynnwys ochr ddwyreiniol Dyffryn Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw o dan lethrau Mynydd Pisga.