Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chi'n tyfu'n aruthrol, ac fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo.