Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 3 beibl.net 2015 (BNET)

Concro Og brenin Basan

1. “Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei.

2. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’

3. “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd.

4. Dyma ni'n concro pob un o'i drefi – chwe deg ohonyn nhw – i gyd yn ardal Argob.

5. Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol gyda waliau uchel a giatiau dwbl gyda barrau i'w cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored hefyd.

6. Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant.

7. Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr.

8. “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Geunant Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.

9. (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.)

10. Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og.

11. (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi ei gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)

Y llwythau wnaeth setlo i'r dwyrain o'r Iorddonen

12. “Felly dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o Afon Iorddonen. Dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a hanner bryniau Gilead i lwythau Reuben a Gad.

13. Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a teyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei alw yn Wlad y Reffaiaid.

14. Dyma Jair o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.)

15. “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse.

16. “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Geunant Arnon (Ceunant Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Wadi Jabboc a ffin Ammon.

17. “Y ffin i'r gorllewin oedd Afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw gyda llethrau Pisga i'r dwyrain.

18. Bryd hynny dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd.

19. Bydd eich gwragedd a'ch plant, yn cael aros yn y trefi dw i wedi eu rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd (mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg).

20. Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi. Hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i Afon Iorddonen.’

21. “A dyma fi'n dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath i'r teyrnasoedd lle dych chi'n mynd.

22. Peidiwch bod ag ofn. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch chi.’

Moses ddim yn cael mynd i wlad Canaan

23. “A dyma fi'n pledio ar yr ARGLWYDD,

24. ‘O Feistr, ARGLWYDD, dw i'n dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n gallu gwneud pethau mor anhygoel?

25. Plîs, wnei di adael i mi groesi dros yr Afon Iorddonen i weld y tir da sydd yr ochr arall? – y bryniau hyfryd a mynyddoedd Libanus.’

26. “Ond roedd yr ARGLWYDD yn wyllt hefo fi o'ch achos chi. Doedd e ddim yn fodlon gwrando. Dyma fe'n dweud, ‘Dyna ddigon! Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth.

27. Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen.

28. Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a'i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy'r un sy'n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di'n ei gweld o dy flaen di.’

29. “Felly dyma ni'n aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.