1. Ac efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau.
2. Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iacháu'r rhai cleifion.
3. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i'r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un.
4. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.
5. A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, pan eloch allan o'r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt.
6. Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy'r trefi, gan bregethu'r efengyl, a iacháu ym mhob lle.
7. A Herod y tetrarch a glybu'r cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw;
8. A rhai eraill, ymddangos o Eleias; a rhai eraill, mai proffwyd, un o'r rhai gynt, a atgyfodasai.
9. A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10. A'r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo'r cwbl a wnaethent. Ac efe a'u cymerth hwynt, ac a aeth o'r neilltu, i le anghyfannedd yn perthynu i'r ddinas a elwir Bethsaida.
11. A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu.
12. A'r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i'r trefi, ac i'r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.
13. Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
14. Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.
15. Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.
16. Ac efe a gymerodd y pum torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod gerbron y bobl.
17. A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.
18. Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae'r bobl yn dywedyd fy mod i?
19. Hwythau gan ateb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac eraill, mai rhyw broffwyd o'r rhai gynt a atgyfododd.
20. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist Duw.
21. Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;
22. Gan ddywedyd, Mae'n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd atgyfodi.
23. Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
24. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi.
25. Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a'i ddifetha'i hun, neu fod wedi ei golli?
26. Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tad, a'r angylion sanctaidd.
27. Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r nid archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.
28. A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi'r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i'r mynydd i weddïo.
29. Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wen ddisglair.
30. Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias:
31. Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem.
32. A Phedr, a'r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef.
33. A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
34. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a'u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i'r cwmwl.
35. A daeth llef allan o'r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef.
36. Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o'r pethau a welsent.
37. A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.
38. Ac wele, gŵr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw.
39. Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae'n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.
40. Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.
41. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y'ch goddefaf? dwg dy fab yma.
42. Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd: a'r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef i'w dad.
43. A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai'r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
44. Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion.
45. Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.
46. A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt.
47. A'r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a'i gosododd yn ei ymyl,
48. Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio'r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.
49. Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni.
50. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i'n herbyn, trosom ni y mae.
51. A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem.
52. Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef.
53. Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem.
54. A'i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o'r nef, a'u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias?
55. Ac efe a drodd, ac a'u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi.
56. Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. A hwy a aethant i dref arall.
57. A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
58. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.
59. Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
60. Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i'r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw.
61. Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu'n iach i'r rhai sydd yn fy nhŷ.
62. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.