Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy'r hwn y deuant!

2. Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a'i daflu i'r môr, nag iddo rwystro un o'r rhai bychain hyn.

3. Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo.

4. Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi atat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddau iddo.

5. A'r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni.

6. A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi.

7. Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu'n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o'r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwyta?

8. Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau?

9. Oes ganddo ddiolch i'r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied.

10. Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

11. Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea.

12. A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell:

13. A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym.

14. A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhawyd hwynt.

15. Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.

16. Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe.

17. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw?

18. Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.

19. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd.

20. A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.

21. Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae.

22. Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.

23. A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.

24. Canys megis y mae'r fellten a felltenna o'r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.

25. Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y genhedlaeth hon.

26. Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.

27. Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch; a daeth y dilyw, ac a'u difethodd hwynt oll.

28. Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;

29. Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y glawiodd tân a brwmstan o'r nef, ac a'u difethodd hwynt oll:

30. Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.

31. Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i'w cymryd hwynt; a'r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl.

32. Cofiwch wraig Lot.

33. Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a'i cyll; a phwy bynnag a'i cyll, a'i bywha hi.

34. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

35. Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

36. Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

37. A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.