Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a'i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,

2. Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas, y daeth gair Duw at Ioan, mab Sachareias, yn y diffeithwch.

3. Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;

4. Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union.

5. Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gŵyrgeimion a wneir yn union, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:

6. A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.

7. Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8. Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9. Ac yr awr hon y mae'r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10. A'r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.

12. A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?

13. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14. A'r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i'ch cyflogau.

15. Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;

16. Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.

17. Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

18. A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.

19. Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20. A chwanegodd hyn hefyd heblaw'r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar.

21. A bu, pan oeddid yn bedyddio'r holl bobl, a'r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef,

22. A disgyn o'r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o'r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y'm bodlonwyd.

23. A'r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseff, fab Eli,

24. Fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseff,

25. Fab Matathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai,

26. Fab Maath, fab Matathias, fab Semei, fab Joseff, fab Jwda,

27. Fab Joanna, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28. Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er,

29. Fab Jose, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi,

30. Fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonan, fab Eliacim,

31. Fab Melea, fab Mainan, fab Matatha, fab Nathan, fab Dafydd,

32. Fab Jesse, fab Obed, fab Boos, fab Salmon, fab Naason,

33. Fab Aminadab, fab Aram, fab Esrom, fab Phares, fab Jwda,

34. Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor,

35. Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala,

36. Fab Cainan, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech,

37. Fab Mathwsala, fab Enoch, fab Jared, fab Maleleel, fab Cainan,

38. Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.