Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Digwyddodd ar un o'r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu'r bobl yn y deml, ac yn pregethu'r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion, gyda'r henuriaid,

2. A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw'r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?

3. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:

4. Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?

5. Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?

6. Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd.

7. A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le.

8. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

9. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.

10. Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.

11. Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.

12. Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.

13. Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.

14. Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw'r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo'r etifeddiaeth yn eiddom ni.

15. A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?

16. Efe a ddaw, ac a ddifetha'r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.

17. Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?

18. Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.

19. A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon.

20. A hwy a'i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i'w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.

21. A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.

22. Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw?

23. Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?

24. Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.

25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw.

26. Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant â sôn.

27. A rhai o'r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo,

28. Gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddi‐blant, ar gymryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.

29. Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant.

30. A'r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant.

31. A'r trydydd a'i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.

32. Ac yn ddiwethaf oll bu farw'r wraig hefyd.

33. Yn yr atgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.

34. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra:

35. Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra:

36. Canys ni allant farw mwy: oblegid cyd‐stad ydynt â'r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad.

37. Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.

38. Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.

39. Yna rhai o'r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist.

40. Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.

41. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd?

42. Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,

43. Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di.

44. Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?

45. Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

46. Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;

47. Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.