Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Iesu yn llawn o'r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i'r anialwch,

2. Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd.

3. A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara.

4. A'r Iesu a atebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw.

5. A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr.

6. A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.

7. Os tydi gan hynny a addoli o'm blaen, eiddot ti fyddant oll.

8. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.

9. Ac efe a'i dug ef i Jerwsalem, ac a'i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:

10. Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i'w angylion o'th achos di, ar dy gadw di;

11. Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.

12. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.

13. Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.

14. A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy'r holl fro oddi amgylch.

15. Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16. Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i'r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen.

17. A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18. Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu'r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb,

19. I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.

20. Ac wedi iddo gau'r llyfr, a'i roddi i'r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.

21. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.

22. Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o'i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff?

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.

24. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun.

25. Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy'r holl dir;

26. Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw.

27. A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad.

28. A'r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint;

29. Ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.

30. Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;

31. Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.

32. A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.

33. Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,

34. Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? Myfi a'th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.

35. A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan ohono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.

36. A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan.

37. A sôn amdano a aeth allan i bob man o'r wlad oddi amgylch.

38. A phan gyfododd yr Iesu o'r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a hwy a atolygasant arno drosti hi.

39. Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a'r cryd a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.

40. A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a'u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt, ac a'u hiachaodd hwynt.

41. A'r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a'u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist.

42. Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaith: a'r bobloedd a'i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd ato, ac a'i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt.

43. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y'm danfonwyd.

44. Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea.