Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr oedd yr holl bublicanod a'r pechaduriaid yn nesáu ato ef, i wrando arno.

2. A'r Phariseaid a'r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.

3. Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon, gan ddywedyd,

4. Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw'n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?

5. Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.

6. A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a'i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid.

7. Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.

8. Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo'r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?

9. Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a'i chymdogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhewch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.

10. Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.

11. Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:

12. A'r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.

13. Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon.

14. Ac wedi iddo dreulio'r cwbl, y cododd newyn mawr trwy'r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau.

15. Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a'i hanfonodd ef i'w feysydd i borthi moch.

16. Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â'r cibau a fwytâi'r moch; ac ni roddodd neb iddo.

17. A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?

18. Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;

19. Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.

20. Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.

21. A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fab i ti.

22. A'r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:

23. A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen.

24. Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.

25. Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.

26. Ac wedi iddo alw un o'r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.

27. Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a'th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.

28. Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef.

29. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda'm cyfeillion:

30. Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.

31. Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.

32. Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.