Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i'w ddisgyblion.

2. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.

3. Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.

4. A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.

5. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;

6. Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i'w ddodi ger ei fron ef:

7. Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae'r drws yn gaead, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a'u rhoddi i ti.

8. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau.

9. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.

10. Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.

11. Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn?

12. Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo?

13. Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Ysbryd Glân i'r rhai a ofynno ganddo?

14. Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r bobloedd a ryfeddasant.

15. Eithr rhai ohonyn a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

16. Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.

17. Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth.

18. Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.

19. Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

20. Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi.

21. Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae'r hyn sydd ganddo mewn heddwch:

22. Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef.

23. Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a'r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.

24. Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan.

25. A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drefnu.

26. Yna yr â efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na'i ddechreuad.

27. A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.

28. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

29. Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd:

30. Canys fel y bu Jonas yn arwydd i'r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i'r genhedlaeth hon.

31. Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.

32. Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.

33. Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo'r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34. Cannwyll y corff yw'r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll.

35. Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.

36. Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.

37. Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta.

38. A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio.

39. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

40. O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd?

41. Yn hytrach rhoddwch elusen o'r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi.

42. Eithr gwae chwi'r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.

43. Gwae chwi'r Phariseaid! canys yr ydych yn caru'r prif gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.

44. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45. Ac un o'r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.

46. Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau ag un o'ch bysedd.

47. Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi, a'ch tadau chwi a'u lladdodd hwynt.

48. Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau: canys hwynt‐hwy yn wir a'u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.

49. Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant:

50. Fel y gofynner i'r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd;

51. O waed Abel hyd waed Sachareias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a'r deml; diau meddaf i chwi, Gofynnir ef i'r genhedlaeth hon.

52. Gwae chwychwi, y cyfreithwyr! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.

53. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fod yn daer iawn arno, a'i annog i ymadrodd am lawer o bethau;

54. Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o'i ben ef, i gael achwyn arno.