Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio;

2. Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn.

3. Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.

4. Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn;

5. Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a'm syfrdanu i.

6. A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn.

7. Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?

8. Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?

9. Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:

10. Dau ŵr a aeth i fyny i'r deml i weddïo; un yn Pharisead, a'r llall yn bublican.

11. Y Pharisead o'i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.

12. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf.

13. A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.

14. Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na'r llall: canys pob un a'r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a'r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

15. A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion pan welsant, a'u ceryddasant hwy.

16. Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

17. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.

18. A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol?

19. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw.

20. Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a'th fam.

21. Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o'm hieuenctid.

22. A'r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

23. Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.

24. A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â'r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!

25. Canys haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

26. A'r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?

27. Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw.

28. A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.

29. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,

30. A'r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.

31. Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy'r proffwydi am Fab y dyn.

32. Canys efe a draddodir i'r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:

33. Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.

34. A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.

35. A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota:

36. A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn.

37. A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio.

38. Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.

39. A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.

40. A'r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo,

41. Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg.

42. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg: dy ffydd a'th iachaodd.

43. Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.