1. Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.
2. Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nis gwybyddir.
3. Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
4. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i'w wneuthur.
5. Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.
6. Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw:
7. Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to.
8. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a'i haddef yntau gerbron angylion Duw.
9. A'r hwn a'm gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw.
10. A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.
11. A phan y'ch dygant i'r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch:
12. Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.
13. A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth.
14. Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a'm gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?
15. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
16. Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda.
17. Ac efe a ymresymodd ynddo'i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?
18. Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a'm da.
19. A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.
20. Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist?
21. Felly y mae'r hwn sydd yn trysori iddo'i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.
22. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch.
23. Y mae'r bywyd yn fwy na'r ymborth, a'r corff yn fwy na'r dillad.
24. Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na'r adar?
25. A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?
26. Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill?
27. Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.
28. Ac os yw Duw felly yn dilladu'r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i'r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?
29. Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus.
30. Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau'r pethau hyn.
31. Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.
32. Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas.
33. Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.
34. Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.
35. Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu golau:
36. A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.
37. Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.
38. Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a'u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny.
39. A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
40. A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.
41. A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd?
42. A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw'r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?
43. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly.
44. Yn wir meddaf i chwi, Efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo.
45. Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi:
46. Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r anffyddloniaid.
47. A'r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod.
48. Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
49. Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes?
50. Eithr y mae gennyf fedydd i'm bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner!
51. Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i'w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael:
52. Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.
53. Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.
54. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.
55. A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd.
56. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?
57. A phaham nad ydych, ie, ohonoch eich hunain, yn barnu'r hyn sydd gyfiawn?
58. Canys tra fyddech yn myned gyda'th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i'r swyddog dy daflu yng ngharchar:
59. Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ei di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ie, yr hatling eithaf.