Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

3. Pob un o dŷ Israel a laddo ych, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o'r gwersyll,

4. Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i'r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl.

5. Oherwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ie, dygant hwynt i'r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i'r Arglwydd.

6. A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwêr yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

7. Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.

8. Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o'r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymo boethoffrwm, neu aberth,

9. Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i'w offrymu i'r Arglwydd; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.

10. A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o'r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwytao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

11. Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a'i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid.

12. Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytaed un enaid ohonoch waed; a'r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwytaed waed.

13. A phwy bynnag o feibion Israel, neu o'r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwytaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch.

14. Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a'i bwytao, a dorrir ymaith.

15. A phob dyn a'r a fwytao'r peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.

16. Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.