1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,
2. Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r anifeiliaid a fwytewch, o'r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear.
3. Beth bynnag a hollto'r ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o'r anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.
4. Ond y rhai hyn ni fwytewch; o'r rhai a gnoant eu cil ac o'r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti'r ewin; aflan fydd i chwi.
5. A'r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi'r ewin; aflan yw i chwi.
6. A'r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi'r ewin; aflan yw i chwi.
7. A'r llwdn hwch, am ei fod yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.
8. Na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â'u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.
9. Hyn a fwytewch o bob dim a'r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwytewch.
10. A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.
11. Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o'u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.
12. Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.
13. A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd‐dra ydynt: sef yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol;
14. A'r fwltur, a'r barcud yn ei ryw;
15. Pob cigfran yn ei rhyw;
16. A chyw'r estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r gwalch yn ei ryw;
17. Ac aderyn y cyrff, a'r fulfran, a'r dylluan,
18. A'r gogfran, a'r pelican, a'r biogen,
19. A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.
20. Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd‐dra yw i chwi.
21. Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;
22. O'r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a'r selam yn ei ryw, a'r hargol yn ei ryw, a'r hagab yn ei ryw.
23. A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd‐dra fydd i chwi.
24. Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â'u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.
25. A phwy bynnag a ddygo ddim o'u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
26. Am bob anifail fydd yn hollti'r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.
27. Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.
28. A'r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.
29. A'r rhai hyn sydd aflan i chwi o'r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a'r llygoden, a'r llyffant yn ei ryw;
30. A'r draenog, a'r lysard, a'r ystelio, a'r falwoden, a'r wadd.
31. Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.
32. A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân.
33. A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o'r rhai hyn i'w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o'i fewn; a thorrwch yntau.
34. Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o'r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan.
35. Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o'u burgyn arno; y ffwrn a'r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.
36. Eto glân fydd y ffynnon a'r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan.
37. Ac os syrth dim o'u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.
38. Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o'u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi.
39. Ac os bydd marw un anifail a'r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â'i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.
40. A'r hwn a fwyty o'i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a'r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.
41. A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd‐dra: na fwytaer ef.
42. Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd‐dra ydynt.
43. Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o'u plegid, fel y byddech aflan o'u herwydd.
44. Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
45. Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a'ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
46. Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a'r ehediaid, a phob peth byw a'r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a'r sydd yn ymlusgo ar y ddaear;
47. I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a'r hwn nis bwyteir.