Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

2. Dyn (pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd, neu gramen, neu ddisgleirder, a bod yng nghroen ei gnawd ef megis pla'r clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion ef yr offeiriaid.

3. A'r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahanglwyf yw hwnnw: a'r offeiriad a'i hedrych, ac a'i barn yn aflan.

4. Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na'r croen, a'i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.

5. A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o'r pla yn y croen; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith.

6. Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o'r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: cramen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd.

7. Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen, wedi i'r offeiriad ei weled, i'w farnu yn lân; dangoser ef eilwaith i'r offeiriad.

8. Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o'r gramen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw.

9. Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf, dyger ef at yr offeiriad;

10. Ac edryched yr offeiriad: yna, os chwydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi'r blewyn yn wyn, a dim cig noeth byw yn y chwydd;

11. Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno; oherwydd y mae efe yn aflan.

12. Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o'r gwahanglwyf holl groen y clwyfus, o'i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho'r offeiriad;

13. Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw.

14. A'r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.

15. Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahanglwyf yw.

16. Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wyn; yna deued at yr offeiriad:

17. Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wyn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.

18. Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a'i iacháu;

19. A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a'i ddangos i'r offeiriad:

20. Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na'r croen, a'i flewyn wedi troi yn wyn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o'r cornwyd.

21. Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwyn, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.

22. Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw efe.

23. Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.

24. Os cnawd fydd â llosgiad yn y croen, a bod i'r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wyn;

25. Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn is i'w weled na'r croen; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o'r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.

26. Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.

27. Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.

28. Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chwydd y llosgiad yw efe; barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.

29. Os bydd gŵr neu wraig â phla arno mewn pen neu farf;

30. Yna edryched yr offeiriad y pla: ac wele, os is y gwelir na'r croen, a blewyn melyn main ynddo; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw; gwahanglwyf pen neu farf yw.

31. Ac os yr offeiriad a edrych ar bla'r ddufrech; ac wele, ni bydd yn is ei weled na'r croen, ac heb flewyn du ynddo; yna caeed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech, saith niwrnod.

32. Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd: ac wele, os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn is gweled y ddufrech na'r croen;

33. Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chaeed yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith.

34. A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech: ac wele, os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd is ei gweled na'r croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.

35. Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lanhau ef;

36. Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.

37. Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi; aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw; a barned yr offeiriad ef yn lân.

38. Os bydd yng nghroen cnawd gŵr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwynion;

39. Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os bydd yng nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwynion wedi gordduo; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen: glân yw efe.

40. A gŵr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; eto glân fydd.

41. Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd talfoel; eto glân fydd efe.

42. Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef.

43. Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch, yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef, fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd;

44. Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw, aflan yw; a'r offeiriad a'i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla.

45. A'r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a'i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.

46. Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o'r gwersyll.

47. Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llin,

48. Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;

49. Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla'r gwahanglwyf yw efe; a dangoser ef i'r offeiriad.

50. Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaeed ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.

51. A'r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahanglwyf ysol yw y pla; aflan yw.

52. Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlân, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahanglwyf ysol yw efe; llosger yn tân.

53. Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;

54. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaeed arno saith niwrnod eilwaith.

55. Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan; llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o'r tu mewn ai o'r tu allan.

56. Ac os edrych yr offeiriad; ac wele'r pla yn odywyll, ar ôl ei olchi; yna torred ef allan o'r dilledyn, neu o'r croen, neu o'r ystof, neu o'r anwe.

57. Ond os gwelir ef eto yn y dilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân.

58. A'r dilledyn, neu yr ystof, neu yr anwe, neu pa beth bynnag o groen, y rhai a olcher, os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eilwaith; a glân fydd.

59. Dyma gyfraith pla gwahanglwyf, mewn dilledyn gwlân, neu lin, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, i'w farnu yn lân, neu i'w farnu yn aflan.