Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur:

3. Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuanc perffaith‐gwbl, yn aberth dros bechod i'r Arglwydd.

4. A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd.

5. A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod.

6. A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o'r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cysegr.

7. A gosoded yr offeiriad beth o'r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

8. A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a'r holl wêr fyddo ar y perfedd;

9. A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â'r arennau;

10. Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm.

11. Ond croen y bustach, a'i holl gig, ynghyd â'i ben, a'i draed, a'i berfedd, a'i fiswail,

12. A'r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i'r tu allan i'r gwersyll, i le glân, wrth dywalltfa'r lludw; ac a'i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa'r lludw y llosgir ef.

13. Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a'r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:

14. Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod.

15. A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd, a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd.

16. A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.

17. A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen.

18. A gosoded o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

19. A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor.

20. A gwnaed i'r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth; felly gwnaed iddo: a'r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.

21. A dyged y bustach allan i'r tu allan i'r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.

22. Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

23. Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl.

24. A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.

25. A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â'i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm.

26. A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.

27. Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o'r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

28. Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i'w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe.

29. A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

30. A chymered yr offeiriad o'i gwaed hi â'i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

31. A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i'r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo.

32. Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl.

33. A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

34. A chymered yr offeiriad â'i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

35. A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i'r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.