Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i'r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.

2. A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o'i beilliaid, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

3. A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i'w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.

4. Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.

5. Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew.

6. Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.

7. Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.

8. A dwg i'r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o'r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.

9. A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o'r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

10. A bydded i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.

11. Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i'r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r Arglwydd.

12. Offrymwch i'r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.

13. Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.

14. Ac os offrymi i'r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf.

15. A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw.

16. A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus: offrwm tanllyd i'r Arglwydd yw.