Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Cymer Aaron a'i feibion gydag ef, a'r gwisgoedd, ac olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:

3. A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.

4. A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.

5. A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6. A Moses a ddug Aaron a'i feibion, ac a'u golchodd hwynt â dwfr.

7. Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a'i gwregysodd ef â'r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a'i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a'i caeodd amdano ef.

8. Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a'r Thummim yn y ddwyfronneg.

9. Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai'r Arglwydd i Moses.

10. A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a'r hyn oll oedd ynddo; ac a'u cysegrodd hwynt.

11. Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a'i holl lestri, a'r noe hefyd a'i throed, i'w cysegru.

12. Ac efe a dywalltodd o olew'r eneiniad ar ben Aaron, ac a'i heneiniodd ef, i'w gysegru.

13. A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai'r Arglwydd wrth Moses.

14. Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a'i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod;

15. Ac efe a'i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a'i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â'i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a'i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni.

16. Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u gwêr; a Moses a'i llosgodd ar yr allor.

17. A'r bustach, a'i groen, a'i gig, a'i fiswail, a losgodd efe mewn tân o'r tu allan i'r gwersyll: fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

18. Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd:

19. Ac efe a'i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.

20. Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a'r gwêr.

21. Ond y perfedd a'r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i'r Arglwydd; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.

22. Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd.

23. Ac efe a'i lladdodd; a Moses a gymerodd o'i waed, ac a'i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.

24. Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o'r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.

25. Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a'r gloren, a'r holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u braster, a'r ysgwyddog ddeau.

26. A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a'u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau:

27. Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a'u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.

28. A Moses a'u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a'u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i'r Arglwydd.

29. Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a'i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30. A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o'r gwaed oedd ar yr allor, ac a'i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a'i wisgoedd, a'i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.

31. A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a'r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a'i feibion a'i bwyty ef.

32. A'r gweddill o'r cig, ac o'r bara, a losgwch yn tân.

33. Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi.

34. Megis y gwnaeth efe heddiw, y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymod drosoch.

35. Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y'm gorchmynnwyd.

36. A gwnaeth Aaron a'i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses.