Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i'r Arglwydd, o anifail, sef o'r eidionau, neu o'r praidd, yr offrymwch eich offrwm.

3. Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o'i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd.

4. A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a'i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto.

5. Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

6. A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.

7. A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.

8. A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a'r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

9. Ond ei berfedd a'i draed a ylch efe mewn dwfr: a'r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

10. Ac os o'r praidd, sef o'r defaid, neu o'r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl.

11. A lladded ef gerbron yr Arglwydd, o du'r gogledd i'r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.

12. A thorred ef yn ei ddarnau, gyda'i ben a'i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

13. Ond golched y perfedd a'r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

14. Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i'r Arglwydd; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.

15. A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.

16. A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â'i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du'r dwyrain, i'r lle y byddo y lludw.

17. Hollted ef, a'i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.