Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn.

3. Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a'r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i'r Arglwydd yn eich holl drigfannau.

4. Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor.

5. O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd.

6. A'r pymthegfed dydd o'r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i'r Arglwydd: saith niwrnod y bwytewch fara croyw.

7. Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur.

8. Ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.

9. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,

10. Pan ddeloch i'r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.

11. Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i'ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi'r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi.

12. Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm i'r Arglwydd.

13. A'i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd, yn arogl peraidd: a'i ddiod‐offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin.

14. Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.

15. A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi'r Saboth, o'r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Saboth cyflawn fyddant:

16. Hyd drannoeth wedi'r seithfed Saboth, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymwch fwyd‐offrwm newydd i'r Arglwydd.

17. A dygwch o'ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, yn flaenffrwyth i'r Arglwydd.

18. Ac offrymwch gyda'r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i'r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â'u bwyd‐offrwm a'u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

19. Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.

20. A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara'r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd, ynghyd â'r ddau oen: cysegredig i'r Arglwydd ac eiddo'r offeiriad fyddant.

21. A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.

22. A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i'r tlawd a'r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

23. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24. Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd.

25. Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.

26. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27. Y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.

28. Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw.

29. Canys pob enaid a'r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

30. A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.

31. Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn.

32. Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o'r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.

33. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.

34. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i'r Arglwydd.

35. Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.

36. Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i'r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i'r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith.

37. Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i'r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd:

38. Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i'r Arglwydd.

39. Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd.

40. A'r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.

41. A chedwch hon yn ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl.

42. Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod:

43. Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

44. A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.