Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn;

2. Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a'i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd.

3. A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o'r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur, ond Magor-missabib.

4. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i'r rhai oll a'th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a'th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a'u caethgluda hwynt i Babilon, ac a'u lladd hwynt â'r cleddyf.

5. Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a'i holl lafur, a phob dim a'r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a'u hanrheithiant hwynt, ac a'u cymerant, ac a'u dygant i Babilon.

6. A thithau, Pasur, a phawb a'r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y'th gleddir, ti, a'r rhai oll a'th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.

7. O Arglwydd, ti a'm hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar.

8. Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr Arglwydd yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd.

9. Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.

10. Canys clywais ogan llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a'i mynegwn: pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddywedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a'i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.

11. Ond yr Arglwydd oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth.

12. Ond tydi, Arglwydd y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a'r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn.

13. Cenwch i'r Arglwydd, moliennwch yr Arglwydd: canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.

14. Melltigedig fyddo y dydd y'm ganwyd arno: na fendiger y dydd y'm hesgorodd fy mam.

15. Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i'm tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr.

16. A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr Arglwydd, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd:

17. Am na laddodd fi wrth ddyfod o'r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a'i chroth yn feichiog arnaf byth.

18. Paham y deuthum i allan o'r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?