Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon.

2. A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia, ac a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd dy Dduw a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn.

3. A'r Arglwydd a'i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd: am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar ei lais ef, am hynny y daeth y peth hyn i chwi.

4. Ac yn awr wele, mi a'th ryddheais di heddiw o'r cadwynau oedd am dy ddwylo: os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon, tyred, a myfi a fyddaf da wrthyt: ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon, paid; wele yr holl dir o'th flaen di: i'r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned, yno dos.

5. Ac yn awr, ac efe eto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, Dychwel at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl: neu dos lle y gwelych di yn dda fyned. Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd, ac a'i gollyngodd ef ymaith.

6. Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa, ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad.

7. A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt‐hwy a'u gwŷr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o dlodion y wlad, o'r rhai ni chaethgludasid i Babilon;

8. Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt‐hwy a'u gwŷr.

9. A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.

10. Amdanaf finnau, wele, mi a drigaf ym Mispa, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeuant atom ni: chwithau, cesglwch win, a ffrwythydd haf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thrigwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu.

11. A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab, ac ymysg meibion Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wledydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy;

12. Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o'r holl leoedd lle y gyrasid hwynt, ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa, ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn.

13. Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa,

14. Ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti yn hysbys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael mab Nethaneia i'th ladd di? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy.

15. Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Nethaneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda?

16. Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.