Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i'r rhai oll a'th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a'th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a'u caethgluda hwynt i Babilon, ac a'u lladd hwynt â'r cleddyf.