1. A'r brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda.
2. Ond ni wrandawodd efe, na'i weision na phobl y tir, ar eiriau yr Arglwydd, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd.
3. A'r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw.
4. A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy.
5. A llu Pharo a ddaethai allan o'r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.
6. Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd,
7. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a'ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i'w wlad ei hun, i'r Aifft.
8. A'r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a'i henillant, ac a'i llosgant â thân.
9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid nid ânt hwy.
10. Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i'ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.
11. A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo,
12. Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl.
13. A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben‐swyddog, a'i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti.
14. Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a'i dygodd ef at y tywysogion.
15. Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a'i trawsant, ac a'i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.
16. Pan ddaeth Jeremeia i'r daeardy, ac i'r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer;
17. Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a'i cymerodd ef allan: a'r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.
18. Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i'th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y'm rhoddasoch yn y carchardy?
19. Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i'ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?
20. Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag fy marw yno.
21. Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.