Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr Arglwydd a ddangosodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda'r seiri a'r gofaint o Jerwsalem, a'u dwyn i Babilon.

2. Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a'r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced.

3. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Beth a weli di, Jeremeia? A mi a ddywedais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a'r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.

4. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais o'r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni.

6. Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a'u dygaf drachefn i'r wlad hon, ac a'u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac nis diwreiddiaf.

7. Rhoddaf hefyd iddynt galon i'm hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi â'u holl galon.

8. Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr Arglwydd,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a'r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft:

9. Ie, rhoddaf hwynt i'w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.

10. A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i'w tadau.