Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr.

2. Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr Arglwydd, ac a'i dodais am fy llwynau.

3. A daeth gair yr Arglwydd ataf eilwaith, gan ddywedyd,

4. Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o'r graig.

5. Felly mi a euthum, ac a'i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i mi.

6. Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno.

7. Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o'r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.

8. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru.

10. Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.

11. Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf, medd yr Arglwydd, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.

12. Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin?

13. Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, â meddwdod.

14. Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a'r meibion ynghyd, medd yr Arglwydd: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.

15. Clywch, a gwrandewch; na falchïwch: canys yr Arglwydd a lefarodd.

16. Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a'i wneuthur yn dywyllwch.

17. Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a'm llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed.

18. Dywed wrth y brenin a'r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.

19. Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a'u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.

20. Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o'r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?

21. Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a'u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?

22. Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau.

23. A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg.

24. Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch.

25. Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr Arglwydd; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.

26. Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.

27. Gwelais dy odineb a'th weryriad, brynti dy buteindra a'th ffieidd‐dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerwsalem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?