1. Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, a'i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni.
2. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o'r mis, y torrwyd y ddinas.
3. A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sef Nergal‐sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal‐sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.
4. A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a'r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i'r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua'r anialwch.
5. A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a'i daliasant ef, ac a'i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribla yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe farn arno.
6. Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda.
7. Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymodd ef â chadwynau i'w ddwyn i Babilon.
8. A'r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem.
9. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a'r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid.
10. A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.
11. A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd,
12. Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo.
13. Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal‐sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon;
14. Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a'i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i'w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.
15. A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd,
16. Dos, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a baraf i'm geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw.
17. Ond myfi a'th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, ac ni'th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt.
18. Canys gan achub mi a'th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr Arglwydd.