Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr Arglwydd eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr Arglwydd eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn:

2. Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a'r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i'r Aifft i ymdeithio yno.

3. Eithr Baruch mab Nereia a'th anogodd di i'n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i'n lladd, ac i'n caethgludo i Babilon.

4. Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na'r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhir Jwda:

5. Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda;

6. Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a'r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia.

7. Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd; fel hyn y daethant i Tapanhes.

8. A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd,

9. Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda;

10. A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt.

11. A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a'r rhai sydd i gaethiwed, â chaethiwed; a'r rhai sydd i'r cleddyf, â'r cleddyf.

12. A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a'u llysg hwynt, ac a'u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch.

13. Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.