Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd.

2. Dyrchafa dy lygaid i'r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir â'th buteindra, ac â'th ddrygioni.

3. Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.

4. Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid?

5. A ddeil efe ei ddig byth? a'i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.

6. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.

7. A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny.

8. A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd.

9. A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda'r maen a'r pren y puteiniodd hi.

10. Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â'i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr Arglwydd.

11. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Israel wrthnysig a'i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.

12. Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr Arglwydd, ac ni adawaf i'm llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lid yn dragywydd.

13. Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr Arglwydd.

14. Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr Arglwydd; canys myfi a'ch priodais chwi: a mi a'ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a'ch dygaf chwi i Seion:

15. Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch porthant chwi â gwybodaeth, ac â deall.

16. Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni ddywedant mwy, Arch cyfamod yr Arglwydd; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.

17. Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr Arglwydd, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.

18. Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i'r tir a roddais i yn etifeddiaeth i'ch tadau chwi.

19. Ond mi a ddywedais, Pa fodd y'th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.

20. Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd.

21. Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israel: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw.

22. Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr Arglwydd ein Duw.

23. Diau fod yn ofer ymddiried am help o'r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni.

24. Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o'n hieuenctid; eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.

25. Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a'n gwarth a'n todd ni: canys yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom, nyni a'n tadau, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw.