1. Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc.
2. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad: eithr nid aeth efe i deml yr Arglwydd. A'r bobl oedd eto yn ymlygru.
3. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd; ac ar fur y tŵr yr adeiladodd efe lawer.
4. Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda, ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau.
5. Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech na hwynt. A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng mil corus o wenith, a deng mil corus o haidd. Hyn a roddodd meibion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a'r drydedd.
6. Felly Jotham a aeth yn gadarn, oblegid efe a baratôdd ei ffyrdd gerbron yr Arglwydd ei Dduw.
7. A'r rhan arall o hanes Jotham, a'i holl ryfeloedd ef, a'i ffyrdd, wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
8. Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
9. A Jotham a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd. Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.