Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr Arglwydd; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ Dduw, yr arian, a'r aur, a'r holl lestri.

2. Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion.

3. Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis.

4. A holl henuriaid Israel a ddaethant, a'r Lefiaid a godasant yr arch.

5. A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a'r Lefiaid a'u dygasant hwy i fyny.

6. Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg, fwy nag a ellid eu rhifo na'u cyfrif gan luosowgrwydd.

7. A'r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i'w lle, i gafell y tŷ, i'r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid.

8. A'r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch: a'r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a'i throsolion, oddi arnodd.

9. A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o'r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn.

10. Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaethai yr Arglwydd gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o'r Aifft.

11. A phan ddaeth yr offeiriaid o'r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad:

12. Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â'u meibion hwynt, ac â'u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.

13. Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr Arglwydd; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr Arglwydd, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr Arglwydd;

14. Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ Dduw.