Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y llefarodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch;

2. A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti, a lle i'th breswylfod yn dragywydd.

3. A'r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.

4. Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â'i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â'i ddwylo, gan ddywedyd,

5. Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel:

6. Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.

7. Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

8. Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i'm henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:

9. Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o'th lwynau, efe a adeilada y tŷ i'm henw i.

10. Am hynny yr Arglwydd a gwblhaodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

11. Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr Arglwydd, yr hwn a amododd efe â meibion Israel.

12. A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo:

13. Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a'i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua'r nefoedd:

14. Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod a thrugaredd â'th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di â'u holl galon:

15. Yr hwn a gedwaist â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â'th enau, felly y cwblheaist â'th law, megis y mae y dydd hwn.

16. Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i.

17. Yn awr gan hynny, O Arglwydd Dduw Israel, poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd.

18. Ai gwir yw, y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i?

19. Edrych gan hynny ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron:

20. Fel y byddo dy lygaid yn agored tua'r tŷ yma ddydd a nos, tua'r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon.

21. Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a'th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o'r nefoedd; a phan glywech, maddau.

22. Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:

23. Yna gwrando di o'r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i'r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.

24. A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn:

25. Yna gwrando di o'r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i'r tir a roddaist iddynt hwy, ac i'w tadau.

26. Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i'th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech hwynt:

27. Yna gwrando di o'r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a'th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i'th bobl yn etifeddiaeth.

28. Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, deifiad, neu falltod, os bydd locustiaid neu lindys; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo;

29. Pob gweddi, pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei bla ei hun, a'i ddolur, ac estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn:

30. Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddau, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef, (canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion;)

31. Fel y'th ofnont, gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear, yr hon a roddaist i'n tadau ni.

32. Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o'th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a'th law gadarn, a'th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn:

33. Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, ac y'th ofnont, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i.

34. Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant arnat ti tua'r ddinas yma yr hon a ddetholaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di:

35. Yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

36. Os pechant i'th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a diclloni ohonot i'w herbyn hwynt, a'u rhoddi o flaen eu gelynion, ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos;

37. Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol;

38. Os dychwelant atat â'u holl galon, ac â'u holl enaid, yng ngwlad eu caethiwed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua'u gwlad a roddaist i'w tadau, a'r ddinas a ddetholaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di:

39. Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a'u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i'th bobl a bechasant i'th erbyn.

40. Yn awr, O fy Nuw, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a'th glustiau yn ymwrando â'r weddi a wneir tua'r lle yma.

41. Ac yn awr cyfod, O Arglwydd Dduw, i'th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O Arglwydd Dduw, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni.

42. O Arglwydd Dduw, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was.