Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.

2. Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,

3. Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd,

4. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.

5. A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda.

6. Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa,

7. A Bethsur, a Socho, ac Adulam,

8. A Gath, a Maresa, a Siff,

9. Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca,

10. A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid.

11. Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin.

12. Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a'u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.

13. A'r offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o'u holl derfynau.

14. Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a'u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a'i feibion a'u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i'r Arglwydd.

15. Ac efe a osododd iddo offeiriaid i'r uchelfeydd, ac i'r cythreuliaid, ac i'r lloi a wnaethai efe.

16. Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant i Jerwsalem, i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau.

17. Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd.

18. A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse:

19. A hi a ymddûg iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham.

20. Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddûg iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith.

21. A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched.

22. A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin.

23. Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o'i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.