Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly Abeia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd.

2. Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw.

3. Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a'r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:

4. Ac a orchmynnodd i Jwda geisio Arglwydd Dduw eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a'r gorchymyn.

5. Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a'r delwau: a chafodd y frenhiniaeth lonydd o'i flaen ef.

6. Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda, oherwydd bod y wlad yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny; oblegid yr Arglwydd a roddasai lonyddwch iddo.

7. Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o'n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr Arglwydd ein Duw, ni a'i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant.

8. Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn, o Jwda tri chan mil, ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau, ac yn tynnu bwa: y rhai hyn oll oedd wŷr grymus.

9. A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt, â llu o fil o filoedd, ac â thri chant o gerbydau; ac a ddaeth hyd Maresa.

10. Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa.

11. Ac Asa a waeddodd ar yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, O Arglwydd, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda'r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O Arglwydd ein Duw; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O Arglwydd, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dyn i'th erbyn.

12. Felly yr Arglwydd a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa, ac o flaen Jwda; a'r Ethiopiaid a ffoesant.

13. Ac Asa a'r bobl oedd gydag ef a'u herlidiasant hwy hyd Gerar: a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau; canys drylliasid hwynt o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei lu ef; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn.

14. A thrawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar; canys yr oedd dychryn yr Arglwydd arnynt hwy: a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd; canys anrhaith fawr oedd ynddynt.

15. Lluestai yr anifeiliaid hefyd a drawsant hwy, ac a gaethgludasant lawer o ddefaid a chamelod, ac a ddychwelasant i Jerwsalem.