Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda'r Arabiaid i'r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd.

2. Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri.

3. Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg.

4. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i'w ddinistr ef.

5. Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-Gilead: a'r Syriaid a drawsant Joram.

6. Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion â'r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe.

7. A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab.

8. A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a'u lladdodd hwynt.

9. Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a'i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a'i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â'i holl galon. Felly nid oedd gan dŷ Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas.

10. Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o'i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda.

11. Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a'i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a'i rhoddodd ef a'i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a'i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef.

12. Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ Dduw chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.